1.   Cyflwyniad

 

Mae’r papur hwn yn rhoi tystiolaeth i’r Pwyllgor am y portffolio Llywodraeth Leol a chynigion ar gyfer y gyllideb yn y dyfodol, fel yr amlinellwyd y rheini yn y gyllideb ddrafft a osodwyd ar 24 Hydref 2017.  

 

Cyllid craidd heb ei neilltuo ar gyfer Awdurdodau Lleol a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu Cymru yw’r rhan fwyaf o gyllid y portffolio Llywodraeth Leol, a hynny’n unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988. Rhoddir cyllid hefyd drwy’r portffolio hwn i gyrff arolygu a rheoleiddio er mwyn goruchwylio gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru mewn ffordd statudol effeithiol.

 

At ddibenion cyfeirio, mae Atodiad A yn rhoi manylion y ffigurau yn y gyllideb ddrafft ar gyfer Adnoddau, Cyfalaf ac AME yn y MEG Llywodraeth Leol, a hynny yn ôl Cam Gweithredu a Llinellau Gwariant (BEL).

 

2.   Cefndir

 

Mae’r gyllideb hon yn cynnwys y cynlluniau gwariant ar gyfer 2018-19, ynghyd â chyllidebau refeniw dangosol ar gyfer 2019-20 a chynlluniau cyfalaf dangosol hyd at 2020-21. Mae’r tabl isod yn rhoi trosolwg o’r MEG Llywodraeth Leol ar gyfer Adnoddau, Cyfalaf a Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME) tan 2019-20. Y dyraniad cyfalaf dangosol yn 2020-21 yw £143m.

Tabl 1: Y Gyllideb ar gyfer 2017-18, 2018-19 a 2019-20 yn dangos y newidiadau 

£’000

Cyllideb Atodol Gyntaf 2017-18

Addasiad i Waelodlin 2017-18

Gwaelodlin Diwygiedig 2017-18

 

Newid

Cyllideb Ddrafft 2018-19

Newid

Cyllideb Ddrafft 2019-20

Adnoddau

3,298,256

6,000

3,304,256

37,465

3,341,721

-85,132

3,256,589

Cyfalaf

143,118

0

143,118

0

143,118

0

143,118

Cyfanswm DEL

3,441,374

6,000

3,447,374

37,465

3,484,839

-85,132

3,399,707

Cyfanswm AME

1,059,000

0

1,059,000

-7,000

1,052,000

26,000

1,078,000

Cyfanswm y Gyllideb

4,500,374

6,000

4,506,374

30,465

4,536,839

-59,132

4,477,707

 

Dyma’r ail gyllideb yn nhymor y Llywodraeth a'r drydedd flwyddyn yn setliad Adolygiad o Wariant presennol Llywodraeth y Deyrnas Unedig.Mae cyni yn dal i fod yn nodwedd sy’n diffinio gwariant cyhoeddus. Mae’r cyfnod hwn o gwtogi parhaus wedi effeithio ar bob gwasanaeth, hyd yn oed y rheini y bu modd inni eu hamddiffyn rywfaint. Mae hyn yn golygu ein bod, Lywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru ill dau, yn parhau i wynebu dewisiadau anodd.  

 

Mae’r goblygiadau posibl wrth i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd yn creu rhagor o ansicrwydd ar draws gwasanaethau cyhoeddus.Mae hyn yn arbennig o berthnasol i awdurdodau lleol pan fydd yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi cyllid allweddol i’r awdurdodau hynny. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu tîm penodol i gydlynu materion sy’n ymwneud â’r Trefniadau Pontio Ewropeaidd. Mae’r tîm hwn yn gweithio’n agos gyda Brwsel a’r adrannau polisi perthnasol.

 

Mae dadansoddi’r dystiolaeth ynghylch y tueddiadau a’r amcanestyniadau presennol wedi rhoi sail i’r broses o flaenoriaethu adnoddau drwy’r gyllideb llywodraeth leol, a hynny er mwyn sicrhau bod y cyllid yn canolbwyntio ar y meysydd mwyaf allweddol wrth ateb anghenion poblogaeth Cymru.  

 

Mae'r MEG Llywodraeth Leol yn cynnwys cyfanswm darpariaeth DEL ac AME o £4.537bn yn 2018-19, sef cynnydd o £30.5m miliwn o’i gymharu â 2017-18.

 

O fewn hyn, mae cynnydd net o £37.5m i’r gyllideb Adnoddau. Mae hyn yn cynnwys trosglwyddiadau o £91.7m i’r setliad refeniw cyffredinol, sef cyllid a roddwyd o’r blaen ar ffurf grantiau penodol gan Lywodraeth Cymru drwy MEGs eraill. Mae trosglwyddo grantiau penodol yn rhoi mwy o reolaeth i awdurdodau lleol dros gyfran fwy o’u gwariant yn y cynlluniau gwariant. Yn ei dro, mae hyn yn rhoi cyfle i arbed costau gweinyddol a chyfle i awdurdodau lleol geisio barn eu cymunedau am y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt hwy.
 

Wrth roi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol drwy drosglwyddo cyllid i’r setliad llywodraeth leol, mae’n hanfodol bod Gweinidogion Cymru a deiliaid portffolios mewn

llywodraeth leol yn parhau i drafod â’i gilydd er mwyn sicrhau bod y canlyniadau y cytunwyd arnynt sydd i’w cyflawni drwy’r elfennau hyn yn y cyllid yn dal i gael eu cyflawni.  

 

Y gyfran fwyaf o’r MEG Llywodraeth Leol yw’r ddarpariaeth ar gyfer y cyllid craidd heb ei neilltuo i'r 22 o gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol. Caiff hyn ei ddarparu ar ffurf Cyllid Allanol Cyfun (AEF).Mae'r AEF yn cynnwys y Grant Cynnal Refeniw (RSG) ac ardrethi annomestig wedi’u hailddosbarthu (NDR).Mae’r grant cynnal refeniw wedi’i gynnwys o fewn y DEL Adnoddau, a chyfrifir ardrethi adnoddau ar ffurf AME Adnoddau.Mae’r cyllid hwn ar y cyd ag incwm a gaiff ei godi’n lleol drwy dreth gyngor yn helpu i ddarparu gwasanaethau craidd awdurdodau lleol. Gan nad yw’r cyllid wedi’i neilltuo, caiff pob awdurdod lleol benderfynu ar ei flaenoriaethau gwariant ei hun yn unol ag anghenion a blaenoriaethau lleol. Yn ogystal â’r cyllid craidd, caiff awdurdodau lleol gyllid hefyd drwy incwm o ffioedd a thaliadau, grantiau penodol gan y llywodraeth ganolog, ac arian wrth gefn.

Mae trefniadau tebyg yn berthnasol wrth ddarparu cyllid Llywodraeth Cymru i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu Cymru drwy Setliad yr Heddlu. Serch hynny, y Swyddfa Gartref sy’n rhoi’r elfen fwyaf o’r cyllid craidd ar gyfer plismona. Mae disgwyl cyhoeddi manylion am ddyraniadau setliad yr heddlu yn 2018-19 ar y cyd â’r Swyddfa Gartref ym mis Rhagfyr.

 

Mae Tabl 2 isod yn dangos, drwy edrych ar yr un ffigurau, bydd cyllid yr AEF yn gostwng £20m neu 0.5% yn 2018-19 o’i gymharu â’r flwyddyn bresennol, ac yn gostwng £61m neu 1.5% y flwyddyn ganlynol.

 

Tabl 3: Cyllid Allanol Cyfun ar gyfer Awdurdodau Unedol (Heb gynnwys cyllid atodol)

 

 

 

 

 

 

2017-18 (wedi’i addasu i gynnwys trosglwyddiadau o £91.7m)

£’000

2018-19 Arfaethedig

 

 

£’000

2019-20 Dangosol

 

£’000

Awdurdodau Unedol

 

 

 

  RSG*

3,201,884

3,188,855

3,103,237

  NDR

1,006,050

999,400

1,024,100

  Cyfanswm

4,207,934

4,188,255

4,127,337

* At ddibenion cysoni ag Atodiad A, mae’r llinell uchod yn cynnwys £600k ar gyfer claddu plant, a bydd yr arian hwn yn cael ei dalu ar wahân.


3.   Y prif bolisïau

 

Meysydd blaenoriaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllid llywodraeth leol yn 2018-19

Mae’r cyllid yn rhoi’r setliad gorau posibl sy’n parhau i amddiffyn llywodraeth leol rhag toriadau mawr yn wyneb cyllidebau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n parhau i leihau. O fewn y setliad hwn, rydym yn blaenoriaethu cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol fel addysg a gofal cymdeithasol.Mae hyn yn golygu rhoi £62m drwy’r elfen ysgolion yn y setliad yn 2018-19 er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal y gyfran dybiedig o gyllid craidd gan Lywodraeth Cymru i ysgolion ar yr un lefel â 2017-18. Yn 2019-20, mae’r ffigur hwn yn codi i £108m, gan adlewyrchu ein hymrwymiad i barhau i fuddsoddi mewn addysg a blaenoriaethu cyllid ysgolion o fewn setliad cyffredinol sy’n llai ei faint. 

Mae blaenoriaethu £42m yn setliad 2018-19 ar gyfer gofal cymdeithasol yn golygu y byddwn yn cynnal y gyfran dybiedig o wariant craidd gan Lywodraeth Cymru ar ofal cymdeithasol ar yr un lefel â 2017-18. Yn 2019-20 bydd y ffigur hwn yn codi i £73m, gan adlewyrchu'r ffaith ein bod yn cydnabod bod angen buddsoddi mewn gofal cymdeithasol, hyd yn oed o fewn setliad cyffredinol sy'n llai ei faint.


Mae’r setliad hefyd yn cynnwys swm ychwanegol o £6m bob blwyddyn i ddarparu gwasanaethau lleol sy’n cyflawni dyletswyddau atal digartrefedd, yn ogystal â’r £6m sy’n rhan o’r setliad yn 2017-18.

Setliad Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd y setliad llywodraeth leol ar wahân ar 10 Hydref drwy roi datganiad ysgrifenedig gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.Mae’r datganiad yn pennu dosbarthiad y setliad llywodraeth leol drwy ddefnyddio’r fformiwla gyllido y cytunwyd arni. Roedd y dosbarthiad yn cynnwys £1.8m yn ychwanegol ar gyfer trefniant cyllid gwaelodol, a hynny er mwyn sicrhau na fyddai’r un awdurdod yn wynebu gostyngiad o fwy na 1% o’i gymharu â’i ddyraniad presennol wrth edrych ar yr un elfennau.   

Mae’r gwaith ymgynghori sy’n sail i’r broses o greu’r setliad llywodraeth leol ymhlith y mwyaf cynhwysfawr drwy holl Lywodraeth Cymru.Mae hyn wedi golygu ymwneud â llywodraeth leol drwy ystod o ddulliau wrth inni ddatblygu'r cynigion ar gyfer setliad 2018-19.Mae’r rhain wedi cynnwys trafodaethau o fewn y Cyngor Partneriaeth Llywodraeth Leol a’i Is-grŵp Cyllid ynghylch yr ystyriaethau cyllido a’r problemau wrth ddosbarthu.

Cynhaliwyd trafodaethau manylach am y fformiwla gyllido drwy’r Is-grŵp Dosbarthu sy’n cynnwys swyddogion Llywodraeth Cymru a swyddogion llywodraeth leol. Yn ei gyfarfod ar 28 Medi, cytunodd yr Is-grŵp Cyllid ar adroddiad yr Is-grŵp Dosbarthu ynghylch y fformiwla gyllido a fyddai’n cael ei defnyddio i ddosbarthu setliad 2018-19.   

Gan fod elfen sylweddol o setliad yr heddlu yn cael ei chyllido gan y Swyddfa Gartref, bydd manylion am setliad yr heddlu yn 2018-19 yn cael eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr 2017 fel rhan o’r cyhoeddiad am setliad yr heddlu yng Nghymru a Lloegr.

Cyllid gwaelodol a chyllid atodol

Fel y crybwyllwyd uchod, yn ogystal â’r cyllid a nodwyd o fewn y MEG ar gyfer y setliad llywodraeth leol, darperir £1.8m o gyllid ychwanegol er mwyn sicrhau nad yw unrhyw awdurdod yn wynebu gostyngiad o fwy nag 1.0% mewn termau ariannol o’i gymharu â’i ddyraniad yn setliad 2017‑18, a rhoddir cyllid atodol os bydd angen yn hynny o beth.

 

Mae chwe awdurdod yn elwa o gyllid atodol yn 2018-19: Powys, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Conwy, Caerffili a Sir Fynwy.

 

Mae’r holl gyllid atodol yn cael ei roi gan Lywodraeth Cymru ac nid yw’n golygu ailddosbarthu cyllid o awdurdodau eraill.

 

Cynlluniau gostyngiadau’r dreth gyngor

 

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i amddiffyn aelwydydd sy’n agored i niwed ac aelwydydd sydd ar incwm isel yng Nghymru, a hynny drwy sicrhau bod pawb sy’n gymwys o dan Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn dal i fod yn gymwys yn 2018-19. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn parhau i roi cyllid o £244m ar gyfer Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor o fewn y setliad llywodraeth leol.  

Bydd y trefniadau tymor hwy ar gyfer 2019-20 ac wedi hynny yn cael eu penderfynu fel rhan o ystyriaethau ehangach ynghylch sut i wneud y system dreth gyngor yn un decach.

 

Y fformiwla gyllido

Rydym yn gweithio’n agos gyda llywodraeth leol er mwyn penderfynu sut yr ydym yn dosbarthu’r setliad blynyddol. Mae Adroddiad yr Is-grŵp Dosbarthu yn cofnodi’r newidiadau arfaethedig i’r fformiwla gyllido yn 2018-19. Cymeradwywyd yr Adroddiad hwn gan yr Is-grŵp Cyllid ar 28 Medi.

Dim ond un newid o bwys sydd i’r fformiwla ar gyfer setliad 2018-19. Dyma’r ail elfen, a'r elfen olaf, yn y broses o gyflwyno newidiadau i'r darn o’r fformiwla sy’n ymwneud â gwasanaethau cymdeithasol, a hynny er mwyn rhoi ystyriaeth i gostau darparu’r gwasanaeth mewn cymunedau ac ynddynt boblogaethau mwy gwasgaredig.

Fel arall mae’r fformiwla’n adlewyrchu’r broses arferol o ddiweddau’r dangosyddion sy’n ymwneud â’r boblogaeth a data eraill. Mae hyn yn sicrhau bod y fformiwla’n parhau’n berthnasol ac yn amserol.  

Mae’r fformiwla ar gyfer dosbarthu setliad yr heddlu yn cael ei pharatoi ar sail Cymru a Lloegr, a chyfrifoldeb y Swyddfa Gartref yw'r fformiwla hon.

Gwariant ataliol

Mae pob awdurdod lleol yn gorff hunanlywodraethol a etholwyd yn ddemocrataidd, a hwnnw’n atebol i’w etholaeth am y penderfyniadau y bydd yn eu gwneud. Mae gan awdurdodau gyfres o ddyletswyddau a swyddogaethau statudol, a phwerau i ddarparu ystod o swyddogaethau a gwasanaethau eraill. Mae’r dyletswyddau hyn yn cynnwys gwaith ataliol fel gwasanaethau gofal cartref er mwyn sicrhau nad yw pobl yn gorfod bod yn yr ysbyty, ac atal digartrefedd. Mae’r gwaith hwn yn cael ei gyllido drwy ystod o ffynonellau, gan gynnwys y setliad grant craidd, incwm treth gyngor ac incwm o ffioedd a thaliadau. O fewn y setliad, rydym yn blaenoriaethu cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol ac yn rhoi £6m yn fwy o gyllid ar gyfer atal digartrefedd yn 2018-19.  

 

Rhaid i bob awdurdod sicrhau ei fod yn cymryd camau priodol i asesu effaith unrhyw bolisi y mae’n ei weithredu gyda’r arian a ddaw drwy’r setliad llywodraeth leol.  

 

Mae’r cynllun gweithredu sydd gan y trydydd sector gyda Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn 2017 yn pennu’r hyn y bydd Llywodraeth Cymru a’r trydydd sector yn ei wneud ar y cyd i gwmpasu gwaith a fydd yn diffinio gwariant ataliol, gan ddefnyddio methodoleg y tasglu gweithredu cynnar fel fframwaith. • Er ei bod yn anodd diffinio gwariant yn nhermau gwariant ataliol, gall fod yn ddefnyddiol deall gwahanol deipolegau o wariant.

Bydd gwneud gwaith ymgysylltu llawn ac ystyrlon ar y gyllideb yn gymorth i sicrhau bod yr effeithiau yn cael eu hystyried yn llawn. Cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw pennu eu blaenoriaethau gwariant eu hunain gan roi ystyriaeth i hyn yn ogystal ag i’r ffynonellau cyllid eraill sydd ar gael iddynt. Mae gofyn i awdurdodau lleol baratoi strategaethau ariannol tymor canolig er mwyn sicrhau eu bod yn pennu cyllidebau sy’n sefydlog ac yn gynaliadwy yn y tymor canolig. 

 

Bydd pob awdurdod yn gwneud ei benderfyniadau ei hun ar sail anghenion a blaenoriaethau lleol, a rhaid iddo asesu effaith ei gynigion a'i benderfyniadau ar grwpiau gwarchodedig ac yng nghyd-destun ei swyddogaethau ehangach.  

 

Safonau’r Gymraeg

Mae pob awdurdod yn gyfrifol am sicrhau ei fod yn cyflawni ei rwymedigaethau statudol ac yn ateb anghenion cymunedau wrth roi safonau’r Gymraeg ar waith.

Mae gan lywodraeth leol gyfraniad allweddol i’w wneud wrth roi’r strategaeth ar waith – yn benodol yr ymdrechion i wella’r cynllunio ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn cynyddu canran y dysgwyr sy’n cael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg (o waelodlin o 22% i 24% yn 2021, 30% yn 2031, a 40% erbyn 2050).

Mae awdurdodau lleol hefyd yn rhoi strategaethau ar waith er mwyn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn eu cymunedau er mwyn cyfrannu at darged Cymraeg 2050 o gynyddu’r defnydd dyddiol a wneir o'r Gymraeg.

Effeithiau ar gydraddoldeb a chynaliadwyedd

Rydym wedi parhau i ddatblygu ein dull o wreiddio'r pum ffordd o weithio yn ein gwaith wrth baratoi'r gyllideb ddrafft, ac mae Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol yn llywio ein dull cyffredinol o weithio yn hynny o beth.

 

Mae cynlluniau’r gyllideb ddrafft wedi’u selio ar ddadansoddiad clir o ffactorau hirdymor sy'n llywio'r galw am wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol. Dangosodd y dadansoddiad yn glir bod angen dull ataliol o gyllido darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus.

 

Wrth osod cyllideb ar gyfer yr holl sector cyhoeddus, rydym wedi nodi’n glir y bydd gwell integreiddio ar draws gwasanaethau cyhoeddus yn hollbwysig er mwyn darparu gwasanaethau’n fwy effeithiol, ac felly hefyd gydweithio a chynnwys defnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus. Gwneir hyn drwy flaenoriaethu cyllid ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol a’r gofyniad i ddarparu cyllidebau cyfun gyda’r Byrddau Iechyd Lleol, a thrwy barhau i gefnogi'r Gronfa Gofal Integredig.

 

Rydym hefyd wedi parhau i ddilyn dull integredig o weithio wrth ystyried yr effeithiau ar grwpiau gwarchodedig ac wrth ganolbwyntio ar y nodau cenedlaethol a rannwn. Mae dull integredig o asesu effaith yn hanfodol, oherwydd mae cydberthynas rhwng llawer o’r materion sy’n ymwneud â chydraddoldeb, tlodi a hawliau plant. Bydd gweithio fel hyn yn ein helpu i ystyried effaith bosibl ein penderfyniadau yn well, ac i fod yn hyderus y gallwn eu rheoli wrth eu hystyried ynghyd.  

Mae Grŵp Cynghorol y Gyllideb ar Gydraddoldeb (BAGE), sy’n cael ei gyd-gadeirio gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, yn rhoi adnodd gwerthfawr wrth sicrhau bod ystyriaethau ynghylch cydraddoldeb yn rhan amlwg o holl benderfyniadau’r gyllideb.

 

 

Mae ein dull integredig yn rhoi asesiad mwy realistig o effaith gyffredinol penderfyniadau gwariant, ac mae’n cydnabod nad oes wastad un ateb a fydd yn rheoli effaith penderfyniad ym mhob maes. Mae’r asesiad hwn o effaith ein penderfyniadau yn hanfodol er mwyn hyrwyddo cyfleoedd cyfartal ac atal gwahaniaethu, a dyma sydd wedi llywio ein dull o weithio yn ystod proses y gyllideb.

O ran cynaliadwyedd, mae gan Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus gyfraniad hollbwysig i’w wneud. Mae’r Byrddau wedi gwneud cynnydd sylweddol tuag at gyflawni eu rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gan weithio’n unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.

 

Drwy eu Hasesiadau, mae’r Byrddau yn ceisio deall yr achosion sy’n sail i’r problemau y mae eu cymunedau a’r bobl sy’n byw yn eu hardaloedd yn eu hwynebu.

 

Yn y dyfodol, wrth ddatblygu Cynlluniau Llesiant Lleol, mae’r Byrddau yn defnyddio’r dystiolaeth yn eu Hasesiadau Llesiant yn sail i ymyriadau sy’n ceisio dod o hyd i atebion ataliol, cyfun i’r problemau hyn.Mae enghreifftiau cynnar nodedig o ymyriadau ataliol yn ymwneud ag anghydraddoldebau iechyd (amddifadedd mewn ardaloedd penodol yn y gymuned), pa mor gydnerth yw’r gymuned yng nghyd-destun poblogaeth sy'n heneiddio, a newid yn yr hinsawdd ar lefel leol.

 

Rydym hefyd wedi dilyn dull o weithio’n integredig ar draws portffolios wrth ddyrannu ein cyllideb gyfalaf ac wrth ystyried yr effaith ddisgwyliedig, a hynny er mwyn blaenoriaethu wrth ddyrannu’r gyllideb. Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol er mwyn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o'r adnoddau sydd ar gael ar y cyd, a hynny er mwyn rhoi sylw i'r heriau a'r cyfyngiadau sy'n wynebu'r llywodraeth gyfan, ac er mwyn canfod cyfleoedd i ddwyn pethau ynghyd, er enghraifft, wrth ddarparu rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

 

Mae’r rhaglen beilot ar gyfer ystadau o dan gynllun cydweithredol Cwm Taf wedi dangos bod cyfleoedd amlwg i’r sector cyhoeddus ledled Cymru arbed arian drwy ddefnyddio tir ac adeiladau mewn ffordd well. Mae hyn yn cynnwys casglu data am eiddo a mapio asedau’n well, a gwella gwybodaeth am yr ystâd gyhoeddus gyfun. Yn ogystal â chanfod cyfleoedd i wneud rhagor o arbedion, bydd hyn hefyd yn tynnu sylw at gyfleoedd i integreiddio a gwella’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu.

 

Diwygio llywodraeth leol

 

 

Mae cydnabod ein bod mewn cyfnod o dorri cyllidebau, a chyfnod lle mae gwasanaethau’n wynebu mwy o heriau, yn golygu nad yw'r sefyllfa sydd ohoni’n gynaliadwy. Mae canfod ffyrdd newydd a gwahanol o weithio, a rhoi’r rheini ar waith ar y cyd â llywodraeth leol, yn ganolog i raglen helaeth ar gyfer diwygio llywodraeth leol. Elfen hollbwysig yn y rhaglen yw ein cynlluniau i roi dulliau i awdurdodau o weithio’n rhanbarthol mewn ffordd systematig a gorfodol mewn gwahanol wasanaethau. Bydd hyn, law yn llaw â mwy o ryddid, fel rhoi pŵer cymhwysedd cyffredinol i awdurdodau, yn hanfodol er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yn parhau i fod yn gynaliadwy yn ariannol ac yn darparu gwasanaethau effeithiol a chydnerth.

 

Darperir £5m yn 2018-19, sy'n codi i £6m yn 2019-20, ar gyfer gwaith sy’n gysylltiedig â thrawsnewid llywodraeth leol a gweithredu deddfwriaeth er mwyn diwygio ac adnewyddu awdurdodau lleol.

 

Mae’r cynlluniau hyn yn cynnwys bwrw ymlaen â’r gwaith o ystyried cyfres o gynigion i ddiwygio’r system etholiadol mewn llywodraeth leol, er mwyn ei gwneud yn haws i bobl bleidleisio a sicrhau bod mwy o bobl yn gymwys i bleidleisio. Mae hefyd yn cynnwys cynnal adolygiad annibynnol o gynghorau tref a chymuned yng Nghymru.

 

Cyrff arolygu a rheoleiddio

Mae’r portffolio llywodraeth leol yn cynnwys cyllid ar gyfer Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ac Estyn. Mae cyllidebau’r cyrff arolygu a rheoleiddio hyn yn gostwng 2.3% yn 2018-19 a 5.4% yn 2019-20. Mae hyn yn gyson â’r gostyngiad yng nghostau rhedeg Llywodraeth Cymru. Mae’r cyrff hyn eisoes yn cymryd camau i sicrhau arbedion ac i dargedu eu hadnoddau’n fwy effeithiol, a hynny er mwyn lliniaru effaith y gostyngiadau hyn yn eu cyllidebau.

 

 

 


Atodiad A